https://ysgolmaenclochog.co.uk/wp-login.php?action=logout&redirect_to=https%3A%2F%2Fysgolmaenclochog.co.uk%2F&_wpnonce=2856b55675
Croeso i Ysgol Gymunedol Maenclochog
Gair o groeso gan y Pennaeth
Croeso i’n gwefan.
Mae Ysgol Maenclochog yn ysgol hapus, bywiog a chroesawgar lle gwelir pawb yn cyd-weithio i ddarparu amrywiaeth o brofiadau ac ystod o gyfleoedd gyda’r nod o osod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol pob plentyn.
Ysbrydolwn ein disgyblion trwy gyflwyno cwricwlwm eang a chyfrous sy’n cael ei gynllunio trwy ddull themateg. Ein nod yw i annog pob disgybl i feithrin hunanhyder yn eu gallu personol: mae gennym ddisgwyliadau uchel sy’n rhoi pwyslais ar bawb i geisio eu gorau glas.
Mae plant yn dysgu orau pan yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel felly mae holl staff yr ysgol yn ymroddedig i gefnogi’n disgyblion a’u teuluoedd i sicrau eu bod yn barod ac yn abl i ddysgu. Anelwn at sicrhau fod profiadau dysgu’r disgyblion yn berthnasol, cyffrous a phwrpasol ac wedi eu seilio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol.
Gobeithio y gwnewch fwynhau crwydro ein gwefan a darganfod mwy am ein hysgol. Ond, pe bai gennych gwestiynnau ychwanegol yna peidiwch oedi cysylltu â ni’n uniongyrchol.
Mae’r staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni i gyd yn chwarae rhan allweddol yn nhaith addysgol pob plentyn. Edrychwn ymlaen at ddod i adnabod eich plentyn a rannu’r daith yma gyda nhw.
Shân M. Clarke